SL(5)385 – Rheoliadau Llifogydd a Dŵr (Diwygio) (Cymru a Lloegr) (Ymadael â’r UE) 2019

Cefndir a Diben

Mae Rheoliadau Llifogydd a Dŵr (Diwygio) (Cymru a Lloegr) (Ymadael â’r UE) 2019 (“y Rheoliadau hyn”) wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill mewn cyfraith yr UE a ddargedwir sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth ym maes diogelwch amgylcheddol, dŵr a llifogydd.

Gweithdrefn

Negyddol.

Craffu ar faterion technegol

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

1.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae rheoliad 5(3)(a) o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 11(2)(b) o Reoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013 i ddileu cyfeiriad at ddeddfwriaeth yr UE, a rhoi cyfeiriadau at ddeddfwriaeth ddomestig yn lle. Fodd bynnag, mae'r diwygiad yn methu ag ystyried geiriad a fewnosodwyd i reoliad 11(2)(b) o'r Rheoliadau gan Reoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018. Felly, unwaith y daw'r Rheoliadau hyn i rym, byddai rheoliad 11(2)(b) o Reoliadau 2013 yn darllen “[…] darpariaethau Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017 a Rheoliadau Cyflenwad Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2018, fel y'u diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (UE) 2015/1787.” Byddai'r datganiad hwn yn anghywir, ac felly mae'n ddiffygiol.

Rhinweddau: craffu

Nodwyd dau bwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Gosodwyd drafft o'r Rheoliadau hyn gerbron y Cynulliad ar gyfer sifftio yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Cytunodd y Pwyllgor mai'r weithdrefn negyddol oedd y weithdrefn briodol ar gyfer y Rheoliadau hyn.

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

I'r graddau y mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Cyflenwad Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2018, mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran cyflenwi dŵr gan ymgymerwyr dŵr sy'n gweithredu'n gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru (ac i gyflenwadau gan drwyddedigion cyflenwi dŵr gan ddefnyddio systemau cyflenwi ymgymerwr o'r fath). O'r herwydd, maent yn berthnasol yn y rhannau o Loegr y mae'r ymgymerwyr dŵr a'r trwyddedigion hynny yn gweithredu ynddynt. Felly, er mai Gweinidogion Cymru yn unig sy'n gwneud y Rheoliadau, adlewyrchir y ffordd y cânt eu cymhwyso'n rhannol i Loegr yn nheitl yr offeryn.

Goblygiadau sy’n deillio o adael yr Undeb Ewropeaidd

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau pellach i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Nodir y pwynt craffu technegol mewn perthynas â’r OS hwn. Gwneir offeryn diwygio.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

14 Mawrth 2019